Author: Lyndsey Maiden

Cau Ffordd Dros Dro

Mae cais wedi dod i law am gau dros dro’r B4310 Abergorlech o bwynt sydd 4 milltir i’r de-orllewin o’r gyffordd â’r B4337, am bellter o 986 metr i gyfeiriad y de-orllewin.

Mae angen cau’r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth i MJQuinn gynnal gwaith brys rhwng 09:00 a 15:00 ddydd Iau, 5 Awst 2021.

Y ffordd arall ar gyfer traffig sy’n teithio i gyfeiriad y de-orllewin fydd mynd i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar hyd y B4310 hyd at y gyffordd â’r B4337. Wrth y gyffordd, troi i’r dde a mynd i gyfeiriad y de-ddwyrain ar hyd y B4337 hyd at y gyffordd â’r B4302. Wrth y gyffordd, troi i’r dde a mynd i gyfeiriad y de / de-ddwyrain ar hyd y B4302 hyd at y gyffordd â chefnffordd yr A40. Wrth y gyffordd, troi i’r dde a mynd tua’r de-orllewin ar hyd cefnffordd yr A40 hyd at y gyffordd â’r B4310 (Nantgaredig). Wrth y gyffordd, troi i’r dde a pharhau i gyfeiriad y gogledd / gogledd-ddwyrain ar hyd y B4310 i ddychwelyd i fan sydd i’r de-orllewin o’r man lle mae’r ffordd ynghau. I’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gogledd-ddwyrain.

Diweddariad Plot Neuadd

Llanfynydd Hall Plot Llanfynydd Hall Plot-Llanfynydd Hall Plot Llanfynydd Hall Plot-Llanfynydd Hall Plot 5 Llanfynydd Hall Plot-Llanfynydd Hall Plot 4 Llanfynydd Hall Plot-Llanfynydd Hall Plot 3 Llanfynydd Hall Plot-Llanfynydd Hall Plot 2 Llanfynydd Hall Plot-Llanfynydd Hall Plot 2 2 Llanfynydd Hall Plot 6 Llanfynydd Hall Plot 3 Llanfynydd Hall Plot 2
<
>

Ym mis Ebrill sefydlwyd lle agored ym mhentref Llanfynydd. Lle hyfryd i’r trigolion lleol ac ymwelwyr i ymlacio a mwynhau’r olygfa. Bydd y llecyn sydd gyferbyn â Festri Capel Speit ac sy’n cynnwys offer chwarae i blant yn cael ei ofalu amdano a’i gynnal gan Gyngor Cymunedol Llanfynydd a gwirfoddolwyr o’r ardal. Croeso i chi alw heibio gan gadw at reolau Covid-19.

Sioe Amaethyddol Llanfynydd 2020

Ifan and Gruff Humphreys enjoying a successful day at the 2018 Llanfynydd Show

Dyddiad Sioe Amaetheddol
Llanfynydd eleni yw yr 8fed o Fis Awst.
Pob cystadleuydd i gofrestru ar ddiwrnod y sioe.

Dosbarthau Gwaith Llaw

63. ‘Yr Her Trawsffurfiad’ (‘The Transformation Challenge’) –
trawsnewid dilledyn. Rhaid arddangos llun or dilledyn gwreiddiol.
64. ‘Het neu sgarff wedi cael ei wau neu grosio â llaw .
65. Eitem o ffeltio.
66. Llun wedi ei wneud o fotymau.
67. ‘Jwg hufen’ – jwg hardd/ddiddorol . – gellir fod wedi ei phrynu.
68. Bag wedi ei wnïo gyda’r peiriant gwnio.
69. Llaw ysgrifennu ‘Gwahoddiad’ – Yng Nghymraeg neu Saesneg.
70. Eitem wedi ei wneud o fetal. ‘Ar gyfer yr ardd’
71. Eitem wedi ei wneud o bren.’Ar gyfer yr ardd’.
72. Ffon gerdded . .
73. Brawddeg ar yr enw ‘Tan y Berllan’ ( Beirniad – Y llywydd)