Category Archives: Straeon lleol
Casgliadau ar gyfer Wcráin – erbyn dydd Sadwrn hwn
Cau Ffordd Dros Dro
Mae cais wedi dod i law am gau dros dro’r B4310 Abergorlech o bwynt sydd 4 milltir i’r de-orllewin o’r gyffordd â’r B4337, am bellter o 986 metr i gyfeiriad y de-orllewin.
Mae angen cau’r ffordd er mwyn sicrhau diogelwch y cyhoedd wrth i MJQuinn gynnal gwaith brys rhwng 09:00 a 15:00 ddydd Iau, 5 Awst 2021.
Y ffordd arall ar gyfer traffig sy’n teithio i gyfeiriad y de-orllewin fydd mynd i gyfeiriad y gogledd-ddwyrain ar hyd y B4310 hyd at y gyffordd â’r B4337. Wrth y gyffordd, troi i’r dde a mynd i gyfeiriad y de-ddwyrain ar hyd y B4337 hyd at y gyffordd â’r B4302. Wrth y gyffordd, troi i’r dde a mynd i gyfeiriad y de / de-ddwyrain ar hyd y B4302 hyd at y gyffordd â chefnffordd yr A40. Wrth y gyffordd, troi i’r dde a mynd tua’r de-orllewin ar hyd cefnffordd yr A40 hyd at y gyffordd â’r B4310 (Nantgaredig). Wrth y gyffordd, troi i’r dde a pharhau i gyfeiriad y gogledd / gogledd-ddwyrain ar hyd y B4310 i ddychwelyd i fan sydd i’r de-orllewin o’r man lle mae’r ffordd ynghau. I’r gwrthwyneb ar gyfer traffig sy’n teithio tua’r gogledd-ddwyrain.
Banc bwyd – helpwch os gwelwch yn dda
Sioe Amaethyddol Llanfynydd – Covid 19
Blin iawn yw gorffod cyhoeddi ei bod yn amhosibl cynnal y sioe amaethyddol eleni. Y peth pwysig yw i ni gyd gadw’n iach a diogel. ‘Rwyn ffyddiog y byddwn nôl yn gryfach nag erioed yn 2021. Diolch o galon am eich holl gefnogaeth dros y blynyddoedd.
Ann(Annwen) Williams Ysgrifenyddes y sioe.
Date for the diary – Second Saturday in August 14/08/2021.