Category Archives: Digwyddiadau pentref

C R O E S O C Y N N E S

Beth am ymuno â’n cyrsiau gwirfoddoli a allai gael eu hariannu drwy ein prosiect Croeso Cynnes!  Beth am Gymorth Cyntaf neu Hylendid Bwyd?  Diddordeb?  Cysylltwch drwy negesydd neu www.llanfynydd.net  Bydd angen ei gwblhau erbyn 3/3/23

What about entering into our volunteer courses that may be funded through our Croeso Cynnes project!  What about First Aid or Food Hygiene?  Interested?  Get in touch through messenger or www.llanfynydd.net  Will need to have been completed by 3/3/23

Cyngor Cymuned LLANFYNYDD Community Council

Sioe Amaethyddol Llanfynydd

Llanfynydd Show

Pleser yw cyhoeddi y bydd Sioe Amaethyddol Llanfynydd yn cael ei chynnal eleni ar Ddydd Sadwrn, 13 Awst.

Ewch ati i baratoi eitemau ar gyfer cystadlaethau agored yr adran Gwaith Llaw:

  • Yr Her Trawnewid (The Transformation Challenge ) – trawsnewid dilledyn. Rhaid arddangos llun o’r dilledyn gwreiddiol.
  • Het neu sgarff wedi ei wau neu ei grosio â llaw.
  • Eitem o ffeltio.
  • Llun wedi ei wneud o fotymau.
  • ‘Jwg hufen’ – jwg hardd/ddiddorol – gellir fod
    wedi ei phrynu.
  • Bag wedi ei wnïo gyda’r peiriant gwnio.
  • Llaw ysgrifennu gwahoddiad yn y Gymraeg neu
    yn Saesneg.
  • Eitem wedi ei wneud o fetal, ‘Ar gyfer yr ardd’.
  • Eitem wedi ei wneud o bren,’Ar gyfer yr ardd’.
  • Ffon gerdded.
  • Brawddeg ar yr enw ‘Tan y Berllan’ . Gall y frawddeg fod yn y Gymraeg neu yn Saesneg.

Wedi dwy flynedd o seibiant, edrychwn ymlaen i’ch croesawu yn ôl i’r sioe. Os am wybodaeth y mae croeso ichi gysylltu â Annwen Williams ar (01267) 290643.

lloffwr

clawr 2022