Sioe Amaethyddol Llanfynydd

Pleser yw cyhoeddi y bydd Sioe Amaethyddol Llanfynydd yn cael ei chynnal eleni ar Ddydd Sadwrn, 13 Awst.

Ewch ati i baratoi eitemau ar gyfer cystadlaethau agored yr adran Gwaith Llaw:

  • Yr Her Trawnewid (The Transformation Challenge ) – trawsnewid dilledyn. Rhaid arddangos llun o’r dilledyn gwreiddiol.
  • Het neu sgarff wedi ei wau neu ei grosio â llaw.
  • Eitem o ffeltio.
  • Llun wedi ei wneud o fotymau.
  • ‘Jwg hufen’ – jwg hardd/ddiddorol – gellir fod
    wedi ei phrynu.
  • Bag wedi ei wnïo gyda’r peiriant gwnio.
  • Llaw ysgrifennu gwahoddiad yn y Gymraeg neu
    yn Saesneg.
  • Eitem wedi ei wneud o fetal, ‘Ar gyfer yr ardd’.
  • Eitem wedi ei wneud o bren,’Ar gyfer yr ardd’.
  • Ffon gerdded.
  • Brawddeg ar yr enw ‘Tan y Berllan’ . Gall y frawddeg fod yn y Gymraeg neu yn Saesneg.

Wedi dwy flynedd o seibiant, edrychwn ymlaen i’ch croesawu yn ôl i’r sioe. Os am wybodaeth y mae croeso ichi gysylltu â Annwen Williams ar (01267) 290643.

lloffwr

clawr 2022