Pleser yw cyhoeddi y bydd Sioe Amaethyddol Llanfynydd yn cael ei chynnal eleni ar Ddydd Sadwrn, 13 Awst.
Ewch ati i baratoi eitemau ar gyfer cystadlaethau agored yr adran Gwaith Llaw:
- Yr Her Trawnewid (The Transformation Challenge ) – trawsnewid dilledyn. Rhaid arddangos llun o’r dilledyn gwreiddiol.
- Het neu sgarff wedi ei wau neu ei grosio â llaw.
- Eitem o ffeltio.
- Llun wedi ei wneud o fotymau.
- ‘Jwg hufen’ – jwg hardd/ddiddorol – gellir fod
wedi ei phrynu. - Bag wedi ei wnïo gyda’r peiriant gwnio.
- Llaw ysgrifennu gwahoddiad yn y Gymraeg neu
yn Saesneg. - Eitem wedi ei wneud o fetal, ‘Ar gyfer yr ardd’.
- Eitem wedi ei wneud o bren,’Ar gyfer yr ardd’.
- Ffon gerdded.
- Brawddeg ar yr enw ‘Tan y Berllan’ . Gall y frawddeg fod yn y Gymraeg neu yn Saesneg.
Wedi dwy flynedd o seibiant, edrychwn ymlaen i’ch croesawu yn ôl i’r sioe. Os am wybodaeth y mae croeso ichi gysylltu â Annwen Williams ar (01267) 290643.