{"id":7214,"date":"2022-12-02T11:18:01","date_gmt":"2022-12-02T11:18:01","guid":{"rendered":"https:\/\/llanfynydd.net\/?p=7214"},"modified":"2022-12-02T11:18:01","modified_gmt":"2022-12-02T11:18:01","slug":"cymorth-costau-byw-ar-gael-yng-nghanolfannau-gwasanaethau-cwsmeriaid-hwbs-sir-gaerfyrddin","status":"publish","type":"post","link":"https:\/\/llanfynydd.net\/cy\/council-matters-cy\/cymorth-costau-byw-ar-gael-yng-nghanolfannau-gwasanaethau-cwsmeriaid-hwbs-sir-gaerfyrddin\/","title":{"rendered":"Cymorth costau byw ar gael yng nghanolfannau gwasanaethau cwsmeriaid (Hwbs) Sir Gaerfyrddin"},"content":{"rendered":"<p>O heddiw, dydd Iau 1 Rhagfyr, bydd canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid (Hwbs) Cyngor Sir Caerfyrddin yng Nghaerfyrddin, Rhydaman a Llanelli yn cynnig ystod ehangach  o gymorth, cyngor a gwasanaethau i drigolion. <\/p>\n<p>Mae&#8217;r gwasanaeth ychwanegol hwn yn deillio o gam gweithredu a gymerwyd mewn digwyddiad cydweithio costau byw a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn ddiweddar  lle daeth rhanddeiliaid ynghyd i drafod ffyrdd o helpu pobl Sir Gaerfyrddin gyda chostau byw cynyddol. <\/p>\n<p>Bydd t\u00eem y Cyngor o ymgynghorwyr Hwb ar gael bob dydd, ynghyd \u00e2 swyddogion tai ac ymgynghorwyr cyflogadwyedd, i ddarparu pecynnau cymorth wedi&#8217;u teilwra i drigolion,  gyda chyngor a chanllawiau ar yr hyn sydd gan ein trigolion yr hawl iddo, yn seiliedig ar eu hamgylchiadau unigol. Gall ymwelwyr \u00e2&#8217;r canolfannau Hwb hefyd gael gwybodaeth am y gwasanaethau sydd ar gael i&#8217;w cefnogi wrth i gostau byw gynyddu. <\/p>\n<p>Y nod hefyd yw gweithio&#8217;n agos gyda sefydliadau penodol o&#8217;r trydydd sector megis Cyngor ar Bopeth a Gyrfa Cymru i gefnogi&#8217;r gwaith hwn a thrwy hefyd fod yn bresennol  yn y Canolfannau Hwb i ddarparu hyd yn oed rhagor o gyngor i drigolion. <\/p>\n<p>Bydd cymorth wedi&#8217;i dargedu hefyd ar gael ym mhob Hwb, gyda phob diwrnod wedi&#8217;i neilltuo i faes gwasanaeth sydd o fwyaf o bwys i drigolion. Bydd swyddogion o wahanol  feysydd gwasanaeth y Cyngor wrth law i ateb cwestiynau a chynnig cymorth a chyngor i drigolion mewn angen. <\/p>\n<p>Y gwasanaethau sydd ar gael yn y canolfannau Hwb ar ddiwrnodau penodol yw:<\/p>\n<p>Dydd Llun \u2013 Ailgylchu a chyngor am wastraff <\/p>\n<p>Dydd Mawrth \u2013 Safonau Masnach <\/p>\n<p>Dydd Mercher \u2013 Cyflogadwyedd <\/p>\n<p>Dydd Iau \u2013 Tai<\/p>\n<p>Dydd Gwener \u2013 Amrywiol wasanaethau <\/p>\n<p>Bydd y wybodaeth a&#8217;r cyngor a gynigir ar ddydd Gwener yn wahanol o wythnos i wythnos ac yn cael ei phennu ar sail anghenion y trigolion a ffactorau eraill.<\/p>\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Linda Evans, Dirprwy Arweinydd ac arweinydd y Cabinet: \u201cErs mis Ebrill mae ein Hymgynghorwyr Hwb wedi helpu dros 800 o drigolion Sir Gaerfyrddin  trwy gynnig cyngor a chymorth ar gael mynediad i amrywiaeth o gynlluniau cymorth gan y cyngor a chan drydydd part\u00efon, gan gynnwys bathodynnau glas ar gyfer parcio i&#8217;r anabl, disgowntiau treth gyngor, prydau ysgol a grantiau gwisg ysgol, atgyfeiriadau at gynlluniau  cyflogadwyedd a llawer mwy. <\/p>\n<p>\u201cBydd y dull newydd hwn yn galluogi trigolion i gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt am ystod eang o faterion, ar y pwynt cyswllt cyntaf. Mae hyn yn cynnwys help  i nodi pa gymorth y mae ganddynt hawl iddo, cwestiynau am gasgliadau ailgylchu, cymorth i&#8217;w helpu i gael gwaith a llawer mwy\u201d.<\/p>\n<p>Dywedodd y Cynghorydd Darren Price, Arweinydd Cyngor Sir Caerfyrddin: \u201cBydd gwella&#8217;r ffordd y mae ein canolfannau Hwb yn cefnogi trigolion yn galluogi pawb i gael  mynediad at yr help sydd ei angen arnynt yn haws, yn ogystal ag ehangu&#8217;r gwasanaethau y gallwn eu cynnig yn y ffordd hon. O ganlyniad, byddwn yn penodi swyddogion cyllideb bersonol i helpu&#8217;r rheiny mewn angen i wella a chynyddu eu gallu ariannol, ac rydym  yn rhagweld y bydd hynny o fudd i nifer o bobl ar draws Sir Gaerfyrddin wrth i gostau byw gynyddu\u201d.<\/p>\n<p>\u201cRwyf yn croesawu&#8217;r gwasanaeth gwell hwn yn nhair prif dref Sir Gaerfyrddin, ond rwyf hefyd yn cydnabod bod angen y gwasanaethau hyn mewn ardaloedd eraill o&#8217;r sir.  Ar hyn o bryd rydym yn nodi prosiectau allweddol yn ein hardaloedd gwledig y gallwn eu cefnogi a helpu gyda throsglwyddo gwybodaeth\u201d.<\/p>\n<p>I gael help gan ymgynghorydd Hwb neu i gael rhagor o wybodaeth am sut i gael cymorth, budd-daliadau a gwasanaethau, ewch i&#8217;r dudalen Hawliwch Bopeth ar wefan Cyngor  Sir Caerfyrddin.<\/p>\n","protected":false},"excerpt":{"rendered":"<p>O heddiw, dydd Iau 1 Rhagfyr, bydd canolfannau gwasanaethau cwsmeriaid (Hwbs) Cyngor Sir Caerfyrddin yng Nghaerfyrddin, Rhydaman a Llanelli yn cynnig ystod ehangach o gymorth, cyngor a gwasanaethau i drigolion. Mae&#8217;r gwasanaeth ychwanegol hwn yn deillio o gam gweithredu a gymerwyd mewn digwyddiad cydweithio costau byw a gynhaliwyd gan Gyngor Sir Caerfyrddin yn ddiweddar lle daeth rhanddeiliaid ynghyd i drafod ffyrdd o helpu pobl Sir &hellip; <a href=\"https:\/\/llanfynydd.net\/cy\/council-matters-cy\/cymorth-costau-byw-ar-gael-yng-nghanolfannau-gwasanaethau-cwsmeriaid-hwbs-sir-gaerfyrddin\/\" class=\"more-link\">Continue reading <span class=\"screen-reader-text\">Cymorth costau byw ar gael yng nghanolfannau gwasanaethau cwsmeriaid (Hwbs) Sir Gaerfyrddin<\/span> <span class=\"meta-nav\">&raquo;<\/span><\/a><\/p>\n","protected":false},"author":2,"featured_media":0,"comment_status":"open","ping_status":"open","sticky":false,"template":"","format":"standard","meta":{"footnotes":""},"categories":[101],"tags":[],"_links":{"self":[{"href":"https:\/\/llanfynydd.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7214"}],"collection":[{"href":"https:\/\/llanfynydd.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts"}],"about":[{"href":"https:\/\/llanfynydd.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/types\/post"}],"author":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfynydd.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/users\/2"}],"replies":[{"embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfynydd.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/comments?post=7214"}],"version-history":[{"count":1,"href":"https:\/\/llanfynydd.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7214\/revisions"}],"predecessor-version":[{"id":7215,"href":"https:\/\/llanfynydd.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/posts\/7214\/revisions\/7215"}],"wp:attachment":[{"href":"https:\/\/llanfynydd.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/media?parent=7214"}],"wp:term":[{"taxonomy":"category","embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfynydd.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/categories?post=7214"},{"taxonomy":"post_tag","embeddable":true,"href":"https:\/\/llanfynydd.net\/cy\/wp-json\/wp\/v2\/tags?post=7214"}],"curies":[{"name":"wp","href":"https:\/\/api.w.org\/{rel}","templated":true}]}}